[Skip to main content](#main-content)

[ OpenNash ](https://opennash.com/) / [Jobs](https://jobs.opennash.com/) [ 01 Search jobs](https://jobs.opennash.com/search/)[ 02 Companies](https://jobs.opennash.com/explore/)[ 03 Hiring report](https://jobs.opennash.com/reports/hiring/)[ 04 AI assistants](https://jobs.opennash.com/connect/)[ 05 How it works](https://jobs.opennash.com/methodology/)

Universal Health Services · Cygnet Afon Las

# Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)

Cygnet Afon Las 

Listed on Universal Health Services’s official careers site. Posted November 6, 2026. Check that it is still open and apply there.
[Apply on Universal Health Services’s careers site →](https://cygnethealth.wd3.myworkdayjobs.com/Cygnet/job/Cygnet-Afon-Las/Therapydd-Iaith-a-Lleferydd-Arbenigol-Iawn--cyfwerth--Band-7-_JR4139)

[OpenNash Jobs](https://jobs.opennash.com/) / [Universal Health Services](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/) / Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)

## Job description

Helping others improve and turn their lives around – there’s no better feeling. It’s what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it. Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7) Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad Contract parhaol, llawn amser Lleoliad: Cygnet Afon Las Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â’n tîm!

Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027. Mae’r ysbyty 15 gwely hwn wedi’i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwybr ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet.

Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig. Y Swydd Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â’u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwybr SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg.

Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar y safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau’r gweithlu yn ôl yr angen. Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy’n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i’ch cefnogi.

Rydym yn chwilio am Therapydd Iaith a Lleferydd sydd yn meddu ar y canlynol: Gradd/diploma ôl-radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, wedi cofrestru â’r HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) ac yn aelod o’r RCSLT (Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd) Cymhwysedd i asesu a rheoli anghenion EDS yn annibynnol (gellir rhoi hyfforddiant a chyfle i ddatblygu yn y maes hwn os oes angen) Profiad ym maes niwroleg a / neu gyflyrau niwroddirywiol a gwybodaeth dda am Therapi Iaith a Lleferydd clinigol i ddangos hynny.

Bydd unigolion â sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu hystyried. Dealltwriaeth o Gefnogi Ymddygiad Cadarnhaol gyda phwyslais ar gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn Tystiolaeth o fod yn aelod da o dîm gydag awydd gwirioneddol i helpu eraill Sgiliau cyfathrebu / rheoli amser rhagorol Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig: Goruchwyliaeth Glinigol Ragorol, cyfleoedd DPP a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyletswyddau clinigol ac anghlinigol.

Cyfarfodydd gwasanaeth rheolaidd a chyfarfodydd cymorth gan gymheiriaid gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd. Cyfle i roi eich stamp ar y pecyn cymorth Hyfforddiant cynefino llawn Aelodaeth am ddim o CEN Cyfle i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, mentrau Gwella Ansawdd a chyfleoedd ymchwil Cynllun arian wedi’i ariannu gan y cwmni sy’n eich galluogi i hawlio gwerth hyd at £1000 y flwyddyn o fuddion, gan gynnwys Ffisiotherapi, Osteopathi, Optometreg, Deintyddiaeth, ymgynghoriadau arbenigol, sganiau a phresgripsiynau am ddim.

Pecyn Cymorth Iechyd Clyfar, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu 24 awr Gostyngiad yng nghost aelodaeth campfa yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd am ddim gyda ClassPass, Rhaglenni Maeth ac Ymgynghoriadau Ffitrwydd Gwobrau i weithwyr, cynllun buddiannau sy’n cynnwys gostyngiadau fel Perkbox Cygnet, Cerdyn Golau Glas, gostyngiadau’r GIG a llawer mwy Cynllun pensiwn cyfrannol y cwmni Cynllun Yswiriant Bywyd a delir gan y cwmni Cynllun Ceir Trydan Prydau bwyd am ddim a lle i barcio car am ddim yn ystod y shifft Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirda, a bydd unrhyw gynnig yn amodol ar basio’r rhain yn llwyddiannus.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominique St Clair Miller, Cyfarwyddwr Therapi Iaith a Lleferydd (Gofal Iechyd) ar 07885 476 384. Ydych chi’n barod am gyfle newydd gwerth chweil? Gwnewch gais nawr.

### Dyddiad cau

1 mis Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau Cofiwch y gall y cyfnod ymgeisio ddod i ben cyn y dyddiad hwn os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law. What next? If you care about making a difference – we want to talk to you. Click the button to apply

## At a glance
- Posted by the employer: Nov 6, 2026
- First seen by OpenNash: Nov 8, 2026
- Last checked: Nov 22, 2026
- Listed for: 16 days
- Location: Cygnet Afon Las[Apply on Universal Health Services’s careers site →](https://cygnethealth.wd3.myworkdayjobs.com/Cygnet/job/Cygnet-Afon-Las/Therapydd-Iaith-a-Lleferydd-Arbenigol-Iawn--cyfwerth--Band-7-_JR4139)

## Hiring at Universal Health Services
- Open jobs: 6,502
- New in the last 7 days: 712
- Tracked since: Jul 12, 2026

[All Universal Health Services jobs](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/) · [Weekly hiring report](/reports/hiring/)

## More jobs at Universal Health Services

### [Neuropsychologist](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/jobs/2e645bb0608199e37983/)

Cygnet Afon Las

### [Support Worker](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/jobs/0c42dcecaa816da2a6ff/)

Cygnet Afon Las

### [Highly Specialist Occupational Therapist (Band 7)](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/jobs/d78376f6b0523b700d18/)

Cygnet Afon Las

### [Highly Specialist Speech & Language Therapist (Band 7 equivalent)](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/jobs/bf8a3d4c9ccd383ef27d/)

Cygnet Afon Las

### [Registered Nurse (RMN or RNLD)](https://jobs.opennash.com/companies/universal-health-services/jobs/3ef6e8d874a951b437ec/)

Cygnet Afon Las

OpenNash lists jobs from employers’ own careers sites and does not handle applications.
Dates come from the employer where stated; “first seen” and “last checked” are our own observations.

[ OpenNash ](https://opennash.com/)

AI-native services firm that builds custom software and 24/7 AI agents.

OpenNash Jobs is an OpenNash Applied AI project.
[Book time with OpenNash](https://calendly.com/opennash/new-meeting?hide_gdpr_banner=1)

Jobs
- [Search jobs](https://jobs.opennash.com/search/)
- [Companies](https://jobs.opennash.com/explore/)
- [Hiring report](https://jobs.opennash.com/reports/hiring/)
- [AI assistants](https://jobs.opennash.com/connect/)
- [How it works](https://jobs.opennash.com/methodology/)

OpenNash
- [opennash.com](https://opennash.com/)
- [Services](https://opennash.com/ai-agent-consulting/)
- [OpenNash CX](https://opennash.com/cx/)
- [AI Tools](https://opennash.com/ai-tools/)
- [Blog](https://opennash.com/blog/)
- [About](https://opennash.com/about/)

Contact
- [hello@opennash.com](mailto:hello@opennash.com)

- [LinkedIn](https://www.linkedin.com/company/opennash)

- [Support](https://jobs.opennash.com/support/)

- [Privacy](https://jobs.opennash.com/privacy/)

- [Terms](https://jobs.opennash.com/terms/)

© 2026 OpenNash, Inc. Company names and public job postings belong to their respective owners. Employers control source availability and application decisions.
